Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (54) |
Ethol Dirprwy Lywydd dros dro
Cafodd Rhodri Glyn Thomas ei ethol yn Ddirprwy Lywydd dros dro.
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13:30.
Gofynnwyd cwesitynau 2-14. Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14:28.
3. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: Rhaglen dileu Twbercwlosis mewn Gwartheg yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 14:34.
4. Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Awdurdodaeth Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl) (Cymru) 2012
Dechreuodd yr eitem am 15:27.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5. Dadl: Adroddiad Blynyddol 2010-2011 Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (ESTYN)
Dechreuodd yr eitem am 15:34.
NDM4943 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
Nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2010-11.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Nodi ymhellach fod yr adroddiad yn dweud bod ‘lefel isel y medrau llythrennedd yn dal i beri problemau yng Nghymru’ ac nad yw ‘gwella llythrennedd y disgyblion yn cael rhan ddigon canolog yn y gwaith o gynllunio cwricwlwm yr ysgol.’
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Gresynu wrth ganfyddiadau yn yr adroddiad blynyddol sy’n awgrymu bod gan 4 disgybl o bob 10 sy’n mynd i ysgol uwchradd oed darllen sydd o leiaf 6 mis o dan eu gwir oedran.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Mynegi pryder difrifol bod pump y cant o’r ysgolion a arolygwyd wedi achosi ‘pryder difrifol’ i Estyn, a bod angen ymweliadau dilynol ar 25 y cant.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Gresynu wrth ganfyddiadau gan Estyn sy’n awgrymu nad yw ‘gwella llythrennedd y disgyblion yn cael rhan ddigon canolog yn y gwaith o gynllunio cwricwlwm yr ysgol’ mewn nifer o ysgolion.
Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 5 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Gresynu wrth ganfyddiadau yn yr adroddiad blynyddol sy’n awgrymu bod safonau dysgu’n amrywio'n sylweddol ledled Cymru.
Derbyniwyd gwelliant 5 yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y
cynnig a’r gwelliannau a oedd yn weddill o dan yr eitem hon
tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Gresynu nad oes yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu ymateb ysgrifenedig i adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
13 |
39 |
57 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Galw ar Lywodraeth Cymru i greu gofyniad cyfreithiol iddi ymateb yn ffurfiol, yn ysgrifenedig, i adroddiadau blynyddol Estyn yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
13 |
39 |
57 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Croesawu cyflwyno’r Grant Amddifadedd Disgyblion yng Nghymru a’r potensial i wella cyflawniad i ddisgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
23 |
0 |
57 |
Derbyniwyd gwelliant 8.
Gwelliant 9 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Gresynu mai ychydig iawn fydd bandio ysgolion yn ei wneud i fynd i’r afael â datganiad y Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant sef ‘Hyd yn oed lle mae ysgol wedi cael ei barnu’n ‘dda’ ar y cyfan, mae ansawdd yr addysgu neu’r dysgu’n aml yn wael yn rhai o’r gwersi neu’r adrannau unigol'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Gwrthodwyd gwelliant 9.
Gwelliant 10 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Gresynu wrth y dystiolaeth yn yr Adroddiad sy’n awgrymu nad oes nifer o awdurdodau lleol yn ymwybodol o berfformiad eu hysgolion a bod rhai ysgolion ‘wedi cael tanberfformio dros gyfnod hir'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
57 |
0 |
0 |
57 |
Derbyniwyd gwelliant 10.
Gwelliant 11 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Gresynu wrth y ffaith bod yr amserlenni ar gyfer gwella addysg a luniwyd gan Lywodraeth Cymru yn anghyson.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
39 |
57 |
Gwrthodwyd gwelliant 11.
Gwelliant 12 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno targedau dros dro i sicrhau ei bod yn cyrraedd ei tharged cyffredinol sef bod system ysgolion Cymru ymysg 20 uchaf y byd erbyn 2015.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 12:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
39 |
57 |
Gwrthodwyd gwelliant 12.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4943 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
Nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi
dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2010-11.
Nodi ymhellach fod yr adroddiad yn dweud bod ‘lefel isel y
medrau llythrennedd yn dal i beri problemau yng Nghymru’ ac
nad yw ‘gwella llythrennedd y disgyblion yn cael rhan ddigon
canolog yn y gwaith o gynllunio cwricwlwm yr ysgol.’
Gresynu wrth ganfyddiadau yn yr adroddiad blynyddol sy’n
awgrymu bod gan 4 disgybl o bob 10 sy’n mynd i ysgol uwchradd
oed darllen sydd o leiaf 6 mis o dan eu gwir oedran.
Mynegi pryder difrifol bod pump y cant o’r ysgolion a arolygwyd wedi achosi ‘pryder difrifol’ i Estyn, a bod angen ymweliadau dilynol ar 25 y cant.
Gresynu wrth ganfyddiadau gan Estyn sy’n awgrymu nad yw ‘gwella llythrennedd y disgyblion yn cael rhan ddigon canolog yn y gwaith o gynllunio cwricwlwm yr ysgol’ mewn nifer o ysgolion.
Gresynu wrth ganfyddiadau yn yr adroddiad blynyddol sy’n awgrymu bod safonau dysgu’n amrywio'n sylweddol ledled Cymru.
Croesawu cyflwyno’r Grant Amddifadedd Disgyblion yng Nghymru a’r potensial i wella cyflawniad i ddisgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim.
Gresynu wrth y dystiolaeth yn yr Adroddiad sy’n awgrymu nad oes nifer o awdurdodau lleol yn ymwybodol o berfformiad eu hysgolion a bod rhai ysgolion ‘wedi cael tanberfformio dros gyfnod hir'.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
57 |
0 |
0 |
57 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
6. Dadl: Agenda strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesedd – “Gwyddoniaeth i Gymru”
Dechreuodd yr eitem am 16.27
NDM4942 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
Nodi’r agenda
strategol newydd ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesedd yng Nghymru
– Gwyddoniaeth i Gymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Gresynu mai dim ond 3.3 y cant oedd
cyfran Cymru o gyllid cyngor ymchwil y DU yn
2009/10.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Gresynu wrth y ‘lleihad yn nifer y disgyblion sy’n astudio pynciau STEM a’r ffaith nad yw nifer y disgyblion sy’n astudio’r pynciau hyn ar gyfer Safon Uwch wedi cynyddu yn unol â nifer y disgyblion sy’n cofrestru ar gyfer arholiadau Safon Uwch yn gyffredinol’.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen i annog pobl dalentog iawn i fynd i ddysgu pynciau STEM.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 4 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Galw ar Lywodraeth Cymru i annog rhagor o fusnesau yng Nghymru i fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu mentrau busnes ac i gael gafael ar gyllid Rhaglen Fframwaith yr UE i wneud hyn.
Derbyniwyd gwelliant 4 yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Galw ar Lywodraeth Cymru i gynhyrchu cynllun cyflenwi yn amlinellu pwyntiau gweithredu allweddol ac yn pennu targedau diffiniadwy ar gyfer gwella gwyddoniaeth ac arloesedd.
Derbyniwyd gwelliant 5 yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Galw ar y Gweinidog Addysg a Sgiliau i egluro’r sefyllfa o ran gwyddoniaeth fel dangosydd pwnc craidd mewn ysgolion.
Derbyniwyd gwelliant 6 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4942 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
Nodi’r agenda strategol newydd ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesedd yng Nghymru – Gwyddoniaeth i Gymru.
Gresynu mai dim ond 3.3 y cant oedd cyfran Cymru o gyllid cyngor ymchwil y DU yn 2009/10.
Gresynu wrth y ‘lleihad yn nifer y disgyblion sy’n astudio pynciau STEM a’r ffaith nad yw nifer y disgyblion sy’n astudio’r pynciau hyn ar gyfer Safon Uwch wedi cynyddu yn unol â nifer y disgyblion sy’n cofrestru ar gyfer arholiadau Safon Uwch yn gyffredinol’.
Galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen i annog pobl dalentog iawn i fynd i ddysgu pynciau STEM.
Galw ar Lywodraeth Cymru i annog rhagor o fusnesau yng Nghymru i fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu mentrau busnes ac i gael gafael ar gyllid Rhaglen Fframwaith yr UE i wneud hyn.
Galw ar Lywodraeth Cymru i gynhyrchu cynllun cyflenwi yn amlinellu pwyntiau gweithredu allweddol ac yn pennu targedau diffiniadwy ar gyfer gwella gwyddoniaeth ac arloesedd.
Galw ar y Gweinidog Addysg a Sgiliau i egluro’r sefyllfa o ran gwyddoniaeth fel dangosydd pwnc craidd mewn ysgolion.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.29
Daeth y cyfarfod i ben am 17.35
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, ddydd Mercher, 21 Mawrth 2012